Cafwyd premier byd o hysbyseb yn annog gwirfoddoli gyda’r Papurau Bro yng nghynhadledd y Papurau Bro ar Fawrth 22ain. Roedd cynrychiolwyr o 40 o bapurau bro Cymru a Lloegr wedi dod ynghyd am eu cynhadledd flynyddol yn Aberystwyth – y tro cyntaf iddynt gyfarfod yn y cnawd ers tair mlynedd.

Bydd yr hysbyseb yn cael ei rannu yn eang i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r Papurau Bro, gan ddangos y gwaith sydd y tu ôl i gynhyrchu Papur Bro ac i annog pobl i gyfrannu mewn ffordd addas at eu Papur Bro lleol.

Mae sylw wedi cael ei roi yn ddiweddar at y diffyg mewn diddordeb o fewn y to iau i wirfoddoli gyda’r Papurau Bro, ond hefyd enghreifftiau cadarnhaol gyda nifer o’r papurau yn llwyddo i gael ystod eang oedran yn cyfrannu. Mae’r papurau bro yn gobeithio bydd yr hysbyseb hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir i danio diddordeb.

Medd Heledd ap Gwynfor, trefnydd y gynhadledd:

Y Papurau Bro sydd yn dod â newyddion, gwybodaeth a sylw lleol i gartrefi nifer fawr o bobol mewn cymunedau amrywiol iawn. Tu ôl i bob papur mae tîm dda o bobol sydd yn gweithio’n ddi-flino i gynhyrchu papur o safon, ond fel gyda pob sefydliad wirfoddol mae angen denu gwaed newydd er mwyn cadw’r diddordeb. Dwi’n ffyddiog y gall yr hysbyseb hwn atgoffa pobol o’r hyn mae’r papurau bro yn eu cyfrannu neu ddysgu rhai o’r newydd bod cyfleoedd iddyn’ nhw – i bawb – allu cyfrannu at gynhyrchu Papur Bro. Mae gan bawb eu sgiliau a gan bob sgil ei rinwedd.

Rhai lluniau o’r diwrnod cynhadledd – diolch i’r holl papurau bro wnaeth fynychu:

heledd.papurau.bro
Author: heledd.papurau.bro

**