Mae gan Gymru 55 o Bapurau Bro wedi eu dotio ar draws y wlad a byddant oll yn cael eu cynrychioli mewn cwt pren ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni.

Ry’n ni’n falch iawn gallu cael cynrychiolaeth o’n Papurau Bro ar faes y brifwyl eleni” esbonia Heledd ap Gwynfor, Cydlynydd Cyfathrebu gyda Mentrau Iaith Cymru, “Edrychwn ymlaen at godi ymwybyddiaeth o waith arbennig y bobl hynny sydd yn gwirfoddoli eu hamser i’w Papurau Bro ar hyd a lled y wlad. Mae pob un Papur Bro yn arbenigo ar rhannu straeon a gwybodaeth leol o fewn eu cymunedau, a bydd cyfle ar y stondin i ddod i adnabod y Papurau hynny.”

Y Barcud yw’r enw ar y Papur Bro lleol i ardal yr Eisteddfod – ardal Tregaron a Phontrhydfendigaid – a bydd rhai o wirfoddolwyr y papur hwnnw ynghyd â gwirfoddolwyr o Bapurau Bro eraill, yn gwirfoddoli eu hamser i fod ar y stondin yn barod am sgwrs. Medd John Meredith, cadeirydd papur bro Y Barcud:  

Mae’r holl ardal yn llawn cyffro am fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld eleni, ac mae ein papur bro Y Barcud yn adlewyrchu’r cyffro hwnnw heb amheuaeth. Mae ein gwirfoddolwyr bob amser yn brysur wrth ddod a’r papur at ei gilydd i’w gyhoeddi yn fisol. Pleser yw cael rhannu newyddion yr ardal, yn arbennig y rhifyn hwn olygwyd gan Neli Jones a’r newyddiadurwr, Lyn Ebenezer.

Ar ddydd Mawrth, Awst 2il bydd John a Lyn yn arwain ar sgwrs am eu papur bro, Y Barcud, ac am bwysigrwydd y Papurau Bro i’n cynefinoedd, gyda gwahoddiad agored i bawb ddod draw at y cwt pren (C10) erbyn 2pm i gael mwynhau yn eu cwmni.

heledd.papurau.bro
Author: heledd.papurau.bro

**