Storiau Cymraeg o’r gymuned, i’r gymuned.
Mae gan bron i bob ardal yng Nghymru ei Phapur Bro ei hun sy’n rhannu hanesion a straeon eu hardaloedd lleol yn Gymraeg.

Beth sydd mewn Papur Bro?
Newyddion pentrefi a threfi, erthyglau rhyngwladol a chenedlaethol, posau, cyfweliadau, hysbysebion, hanes lleol a llawer iawn mwy
I bwy mae’r Papur Bro?
Mae’r papurau bro i bawb!
Wyt ti’n dysgu Cymraeg? Dyma ffordd braf i ti ymarfer darllen Cymraeg a dysgu am dy fro.


Ble mae dy Bapur Bro?
Yng Nghymru mae y rhan fwyaf o’n papurau bro, ond mae yna 2 papur bro Cymraeg dros y ffin yn Lloegr hefyd. Cer i edrych ar y map i ddarganfod dy Bapur Bro lleol.
Y Papur Bro Cyntaf?
Y Dinesydd,papur bro dinas Caerdydd a Bro Morgannwg. Cafodd ei sefydlu yn 1973 er mwyn cael papur yn iaith y bobol a chael cynnwys lleol o ddiddordeb i gymuned agos.
Y Papur Bro Diweddaraf?
Llygad y Dydd, papur bro Dolgellau.
Cafodd y rhifyn gyntaf ei gyhoeddi yn 2018.

Recent Comments