Yn ystod mis Mawrth 2022 cynhaliwyd cynhadledd y Papurau Bro – cyfle i gael gwirfoddolwyr o’r Papurau Bro ynghyd i gael y wybodaeth ddiweddaraf, dysgu a thrafod ymysg ein gilydd. Trefnwyd y gynhadledd gan Mentrau Iaith Cymru, a gan mai cwrdd yn rhithiol wnaed, trefnwyd cyfres o dair noson wedi eu gwasgaru dros fis Mawrth. Cafwyd gyflwyniad gan Heledd ap Gwynfor am y system grantiau sydd yn parhau gan Lywodraeth Cymru, a’r ffaith y bydd gan y Papurau Bro ei stondin / cwt ei hun ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni; ymunodd Lowri Fron Jones gyda ni i rhoi diweddariad ar waith Bro360.

Cyllid a bancio oedd pwyslais yr ail noson o gyfarfod, gyda Tegid Roberts yn ein cyflwyno i Banc Cambria – banc newydd er budd ac elw Cymru. Roedd pawb oedd yn bresennol yn unfryd y dylwn gefnogi’r Fenter hon. Cafwyd gyflwyniad wedyn gan Cris Tomos o Bapur Bro Clebran, ardal y Preselau yng ngogledd sir Benfro. Rhannodd Cris o’i brofiad helaeth ar sut gall y papurau bro greu incwm, roedd ei gyflwyniad sgyrsiol yn golygu bod digon o rannu gwybodaeth a syniadau yn digwydd.

Gwirfoddoli oedd testun ein noson olaf o gynadledda. Ymunodd Iwan Hywel, Mentrau Iaith Cymru gyda ni a chafwyd sgwrs ddifyr iawn ar yr heriau a’r pleserau sydd i wirfoddoli i’r Papur Bro.

Diolch yn fawr i bawb ymunodd – ein gobaith a’n ffydd yw y gallwn gwrdd ‘go iawn’ y tro nesaf!

heledd.papurau.bro
Author: heledd.papurau.bro

**