
Cynhadledd y papurau bro 2022
Yn ystod mis Mawrth 2022 cynhaliwyd cynhadledd y Papurau Bro – cyfle i gael gwirfoddolwyr o’r Papurau Bro ynghyd i gael y wybodaeth ddiweddaraf, dysgu a thrafod ymysg ein gilydd. Trefnwyd y gynhadledd gan Mentrau Iaith Cymru, a gan mai cwrdd yn rhithiol wnaed, trefnwyd cyfres o dair noson wedi eu gwasgaru dros fis Mawrth. Cafwyd gyflwyniad gan Heledd ap Gwynfor am y system grantiau sydd yn parhau gan Lywodraeth Cymru, a’r ffaith y bydd gan y Papurau Bro ei stondin / cwt ei hun ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni; ymunodd Lowri Fron Jones gyda ni i rhoi diweddariad ar waith Bro360.
Cyllid a bancio oedd pwyslais yr ail noson o gyfarfod, gyda Tegid Roberts yn ein cyflwyno i Banc Cambria – banc newydd er budd ac elw Cymru. Roedd pawb oedd yn bresennol yn unfryd y dylwn gefnogi’r Fenter hon. Cafwyd gyflwyniad wedyn gan Cris Tomos o Bapur Bro Clebran, ardal y Preselau yng ngogledd sir Benfro. Rhannodd Cris o’i brofiad helaeth ar sut gall y papurau bro greu incwm, roedd ei gyflwyniad sgyrsiol yn golygu bod digon o rannu gwybodaeth a syniadau yn digwydd.
Gwirfoddoli oedd testun ein noson olaf o gynadledda. Ymunodd Iwan Hywel, Mentrau Iaith Cymru gyda ni a chafwyd sgwrs ddifyr iawn ar yr heriau a’r pleserau sydd i wirfoddoli i’r Papur Bro.
Diolch yn fawr i bawb ymunodd – ein gobaith a’n ffydd yw y gallwn gwrdd ‘go iawn’ y tro nesaf!



Llyfryn Gweithgareddau i’r gymuned
Bu Mentrau Iaith Cymru yn cyd weithio gyda Bro360 i ddarparu llyfrynnau gweithgareddau newydd sbon i bob Papur Bro yng Nghymru.
Aeth Bro360 ati i greu llyfryn Bro Ni, a’i lansio’n swyddogol yn Galeri Caernarfon yn ystod mis Tachwedd 2021.
Nod llyfryn Bro Ni yw annog pobl i gynnal bwrlwm bro ac ymwneud â’u cymunedau. Mae’n cynnwys cymhellion ar ffurf gweithgareddau creadigol ar themâu fel cynnyrch lleol, digwyddiadau, dathlu hanes ac arwyr bro, chwaraeon lleol, democratiaeth, darlledu a llawer mwy.
Ar waelod sawl adran mae’n cynnig syniadau am sut i adlewyrchu bwrlwm bro trwy gyhoeddi straeon lleol – ac mae sawl un o’r syniadau hynny’n berthnasol i wefannau bro ac i Bapurau Bro.
Mae copiau ar gael o’r siopau canlynol lle mae Bro360 yn gweithio ar hyn o bryd, sef Ceredigion ac Arfon: Palas Print, Siop Na-nog, Siop Ogwen; Siop y Pethe, Siop Inc, Rhiannon Tregaron, Smotyn Du Llanbed, Ffab Llandysul, Aeron Booksellers, Sianti ac Awen Teifi.
Neu dyma gopi pdf yma!
cydweithio rhwng gwefannau bro a phapurau bro
Fideo fer i ddangos 5 ffordd y gall gwefannau a phapurau bro gydweithio
sut mae adnabod a chreu stori
Fideo fer ar sut mae adnabod a chreu stori leol dda
Esiamplau canfod straeon lleol
Fideo fer yn dangos 5 esiampl o gael hyd i straeon
Hysbyseb y Papurau Bro ar S4C
Wnes di weld yr hysbyseb deledu fu ar S4C yn ystod mis Mai 2021? Mae’r hysbyseb yn atgoffa’r cyhoedd am y Papurau Bro – nifer ohonynt sydd wedi parhau i gyhoeddi drwy blwyddyn anodd dros ben y pendemig. Mae’r hysbyseb hefyd yn dwyn ymwybyddiaeth i gynulleidfa newydd ac yn eu cyfeirio at y wefan hon!
Llwyddiant y Papurau Bro ar raglen Newyddion S4C
Pwy welodd yr eitem hon ar raglen Newyddion S4C ar Fai 3ydd, 2021? Diolch yn fawr am gyfraniadau gan Bapurau Bro Clonc, Y Cardi Bach ac Y Barcud fu’n sôn am yr effaith gadarnhaol sydd wedi bod ar eu Papurau nhw yn ystod blwyddyn anodd iawn.
Dyma erthygl ar Cymru Fyw yn ogystal yma
Cyfres o dair sesiwn hyfforddiant gyda Dylan Iorwerth
Dylan Iorwerth a Lowri Jones o Golwg360 fu’n arwain ar dair sesiwn hyfforddiant ar gyfer y Papurau Bro yn ystod mis Mawrth / Ebrill 2021.
Trefnodd Mentrau Iaith Cymru gwrdd dros gyfrifiadur er mwyn trafod yr hyn sy’n gwneud stori dda, a sut mae adnabod cyfleoedd am straeon lleol? Derbyniwyd hefyd gyngor ar ysgrifennu a chyfweld ar gyfer Papur Bro a cafwyd gyflwyniad ar sut orau i fanteisio ar ein holl gyfryngau. Mae recordiad o’r sesiynau ar gael at ddefnydd gwirfoddolwyr y Papurau Bro.



Huw Edwards yn siarad â gwirfoddolwyr y papurau bro
Ar Rhagfyr 17eg, 2020 cynhaliwyd cyfarfod arbennig gyda gŵr gwadd yn ymuno â gwirfoddolwyr y papurau bro yn rhithiol. Ymunodd y newyddiadurwr poblogaidd, Huw Edwards o’r BBC â dros hanner cant o wirfoddolwyr y papurau bro i’w annerch â geiriau gobeithiol am y dyfodol.
Nododd bod y ‘lleol’ lawn mor bwysig y dyddiau hyn, ac yn y ganrif hon ag erioed o’r blaen, a bod pobl yn awchu am wybodaeth yn lleol iddyn’ nhw. Mae gan y papurau bro rôl holl bwysig i ddod â newyddion a digwyddiadau lleol i’w phobol ac i gadw clustiau a llygaid pobl leol yn agored i’r hyn sy’n digwydd yn eu cymunedau.
Dywedodd Huw Edwards:
“… mae’r papurau bro wedi bod yn wyrthiol o lwyddiannus â gweud y gwir … mae’r [papurau bro] yn cynnig y cyfle i’r gymuned i rannu gwybodaeth – mae’n wasanaeth cymdeithasol – maent yn cynnig llwyfan i bobol i ddweud eu dweud, i rannu straeon, i apelio, gofyn am gymorth, rhybuddio, rhannu gwybodaeth am ddigwyddiad… hyn yn broses bwysig o newyddiadura – chwilio am bethau diddorol, a chwilio am bethau nad yw pobol yn gwybod amdanynt. Hyn yn bwysig o ran democratiaeth hefyd.”


