Llwyddiant y Papurau Bro ar raglen Newyddion S4C
Pwy welodd yr eitem hon ar raglen Newyddion S4C ar Fai 3ydd, 2021? Diolch yn fawr am gyfraniadau gan Bapurau Bro Clonc, Y Cardi Bach ac Y Barcud fu’n sôn am yr effaith gadarnhaol sydd wedi bod ar eu Papurau nhw yn ystod blwyddyn anodd iawn.
Dyma erthygl ar Cymru Fyw yn ogystal yma
Cyfres o dair sesiwn hyfforddiant gyda Dylan Iorwerth
Dylan Iorwerth a Lowri Jones o Golwg360 fu’n arwain ar dair sesiwn hyfforddiant ar gyfer y Papurau Bro yn ystod mis Mawrth / Ebrill 2021.
Trefnodd Mentrau Iaith Cymru gwrdd dros gyfrifiadur er mwyn trafod yr hyn sy’n gwneud stori dda, a sut mae adnabod cyfleoedd am straeon lleol? Derbyniwyd hefyd gyngor ar ysgrifennu a chyfweld ar gyfer Papur Bro a cafwyd gyflwyniad ar sut orau i fanteisio ar ein holl gyfryngau. Mae recordiad o’r sesiynau ar gael at ddefnydd gwirfoddolwyr y Papurau Bro.



Huw Edwards yn siarad â gwirfoddolwyr y papurau bro
Ar Rhagfyr 17eg, 2020 cynhaliwyd cyfarfod arbennig gyda gŵr gwadd yn ymuno â gwirfoddolwyr y papurau bro yn rhithiol. Ymunodd y newyddiadurwr poblogaidd, Huw Edwards o’r BBC â dros hanner cant o wirfoddolwyr y papurau bro i’w annerch â geiriau gobeithiol am y dyfodol.
Nododd bod y ‘lleol’ lawn mor bwysig y dyddiau hyn, ac yn y ganrif hon ag erioed o’r blaen, a bod pobl yn awchu am wybodaeth yn lleol iddyn’ nhw. Mae gan y papurau bro rôl holl bwysig i ddod â newyddion a digwyddiadau lleol i’w phobol ac i gadw clustiau a llygaid pobl leol yn agored i’r hyn sy’n digwydd yn eu cymunedau.
Dywedodd Huw Edwards:
“… mae’r papurau bro wedi bod yn wyrthiol o lwyddiannus â gweud y gwir … mae’r [papurau bro] yn cynnig y cyfle i’r gymuned i rannu gwybodaeth – mae’n wasanaeth cymdeithasol – maent yn cynnig llwyfan i bobol i ddweud eu dweud, i rannu straeon, i apelio, gofyn am gymorth, rhybuddio, rhannu gwybodaeth am ddigwyddiad… hyn yn broses bwysig o newyddiadura – chwilio am bethau diddorol, a chwilio am bethau nad yw pobol yn gwybod amdanynt. Hyn yn bwysig o ran democratiaeth hefyd.”


