Bu Mentrau Iaith Cymru yn cyd weithio gyda Bro360 i ddarparu llyfrynnau gweithgareddau newydd sbon i bob Papur Bro yng Nghymru.

Aeth Bro360 ati i greu llyfryn Bro Ni, a’i lansio’n swyddogol yn Galeri Caernarfon yn ystod mis Tachwedd 2021.

Nod llyfryn Bro Ni yw annog pobl i gynnal bwrlwm bro ac ymwneud â’u cymunedau. Mae’n cynnwys cymhellion ar ffurf gweithgareddau creadigol ar themâu fel cynnyrch lleol, digwyddiadau, dathlu hanes ac arwyr bro, chwaraeon lleol, democratiaeth, darlledu a llawer mwy.

Ar waelod sawl adran mae’n cynnig syniadau am sut i adlewyrchu bwrlwm bro trwy gyhoeddi straeon lleol – ac mae sawl un o’r syniadau hynny’n berthnasol i wefannau bro ac i Bapurau Bro.

Mae copiau ar gael o’r siopau canlynol lle mae Bro360 yn gweithio ar hyn o bryd, sef Ceredigion ac Arfon: Palas Print, Siop Na-nog, Siop Ogwen; Siop y Pethe, Siop Inc, Rhiannon Tregaron, Smotyn Du Llanbed, Ffab Llandysul, Aeron Booksellers, Sianti ac Awen Teifi.

Neu dyma gopi pdf yma!

heledd.papurau.bro
Author: heledd.papurau.bro

**